Rhanbarthau Moroco

Creuwyd rhanbarthau Moroco yn 1997 fel rhan o broses datganoli ym Moroco. Ceir 16 ohonynt ym Moroco ac yn y rhan o diriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara a hawlir gan y wlad. Dyma unedau gweinyddol uchaf Moroco, a rennir yn eu tro yn 61 uned weinyddol. Rheolir pob rhanbarth gan Wali, a enwebir gan frenin y wlad. Mae'r Wali yn llywodraethwr y dalaith neu préfecture lle mae'n byw hefyd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search